
Hiya! Sa’i dy sgwennu ‘ma am amser hir felly rwy’n dechrau to. Mis yn ol nes i symud i brifysgol ac felly ddim yn fyw mewn Cymru nac yn astudio yn y Gymraeg. Fel canlyniad, rydw i’n gobeithio blogio mewn Cymraeg fel ymarfer er mwyn cadw’r iaith. Sa’i ‘di ffeindo pobl sy’n rhigl yn y Gymraeg yma ond rwy’n nabod llawer sydd yn dod o Gymru sydd yn gret. Dwi hefyd wedi ymuno a’r cymdeithas Cymraeg ac yn edrych ymlaen i dod yn well ffrindie efo’r bobl Cymreig ym man hyn.
Mae’r gwaith yma yn anodd ac mae sut gymaint ohonno fe sai’n gwybod sut i dechre. Rwy’n falch i fod yn Cymraeg oherwydd i’r maintenance loan dda, sai’n deall sut mae pobl yn gweitho ac astudio!!! Mae fy lety’n eithaf neis ac rwy’n hapus iawn i fod mewn ddinas yn lle pentre fach gyda dim yn mynd mlan hefyd.
Dymuna pob lwc i fi,
Liv x