Wythnos Darllen

Mae hi’n wythnos darllen ym mhrifysgol nawr, dwi ‘di ddysgu yma am chwe wythnos nawr ac yn dechrau i ddod yn gyfforddus efo ddysgu’n annibynol ac astudio addysg uwchraddol felly dyma’r crynodeb.

Darganfyddais fod llawer o amywiaeth yn y gwrs ffiseg o ran pwnc a’r lefel o anhawster. Er enghraifft, ar y foment, rwy’n astudio pump wahanol adran o ffiseg ac un cwrs iaith (sbaeneg ar gyfer mynd dramor) sydd yn cynnwys pethau fel mathemateg, astroffiseg a ffiseg cwantwm. Mae mathemateg yn eitha hawdd i mi oherwydd wnes i astudio maths pellach yn y chweched sydd ddim yn angenrheidiol ar gyfer y gwrs yma, felly mae’r prifysgol yn ceisio ca’l pawb ar yr un lefel er mwyn dysgu pethau anoddach. Ar y llaw arall, weithiau mae pethau mor astrus dwi bron yn crio wrth ceisio gweithio trwy gwaith yr wythnos.

Hefyd, yn yr wythnos croesawu dwedon nhw bod disgwyliad astudio tua pedwarddeg awr yr wythnos, fel swydd amser llawn; mae hyn yn cynnwys darlithiau ayyb. Ro’n i’n disgwyl bod rrhaid i mi weithio’n galetach nag yn y chweched ond do’n i ddim yn barod am hyn. Sa i’n deall ble mae pobl yn ffeindio’r amser i mynd mas a phartio i bod yn wir, dwi wastad yn gweithio’n hwyr i orffen popeth ar amser a does ddim amser i wneud unrhywbeth allgyrsiol chwaith.

Rhywbeth arall dwi di cael trafferth gyda yw CODI YN Y BORE!!!! Sai’n person sy’n codi’n gynnar ac mae gen i ddarlithiau 9 y.b. tair gwaith yr wythnos, ac mae’r ddau ddydd arall ddim reli yn well chwaith. Dwi’n chwithig o’r nifer o weithiau dwi di colli darlith trwy gysgu’n hwyr. A ie, mae’r bai ar fi am aros lan yn gwylio Glee efo fy flatmates ond sai’n deall pam mae fy nghorff ddim yn gallu clywed larwm wyth y bore!?!?

Ond dyna ddigon o’r pethau drwg a ddryslyd. Dwi wrth fy modd efo bywyd prifysgol i ddweud y gwir. Yr annibyddiaeth a’r siawns i astudio rhywbethh rwy’n caru. Mae’r pobl dwi’n byw efo’n mor gyfeillgar ac rwyf wedi ffeindio sut gymaint o ffrinidau a phrofiadau newydd. Rwy’n rhan o’r cymdeithas Gymraeg, cerddorfa a chlwb llyfrau.

Mae gen i lawer o waith i orffen cyn diwedd yr wythnos felly dyna ni am bost yma. Gwela chi!
Liv x

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *